Math | dinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 263,312 |
Gefeilldref/i | San Diego |
Daearyddiaeth | |
Sir | Nangarhar |
Gwlad | Affganistan |
Arwynebedd | 122 km² |
Uwch y môr | 533 metr |
Gerllaw | Afon Kabul |
Cyfesurynnau | 34.4303°N 70.4528°E |
Mae Jalālābād (Pashto/Perseg: جلال آباد) yn ddinas yn nwyrain Affganistan. Fe'i lleolir 1,814 troedfedd uwch lefel y môr ger cyflifiad afon Kabul ac afon Kunar, ac mae'n brifddinas talaith Nangarhar. Mae priffordd yn ei chysylltu â Kabul, prifddinas y wlad, 90 milltir i'r gorllewin, a gyda dinas Peshawar ym Mhacistan, tua'r un pellter i'r dwyrain dros Fwlch Khyber. Mae gan Jalalabad boblogaeth o tua 96,000 o bobl (amcangyfrifiad 2002).