Jam

Amrywiaeth o botiau jam ar werth yn Ffrainc.

Cyffaith a wneir drwy ferwi ffrwythau a siwgr yw jam.[1] Modd o gadw ffrwyth rhag eplesu yw gwneud jam, ac i'w droi'n gyfwyd melys sy'n hawdd ei daenu ar bara, teisen, ac ati.

Câi mwydion y ffrwyth ei ferwi ynghyd â maint cystal o siwgr yn stwnsh, nes cyrraedd ansawdd trwchus. Gan amlaf, tro'r cymysgedd yn gel ar 103–105 °C. Trwy'r broses hon gostyngir cynnwys y dŵr, sy'n cyfrif am ryw 80 y cant o'r rhan fwyaf o ffrwythau ffres. Wrth oeri, mae'r cymysgedd yn troi'n gel pectin.

  1.  jam. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 28 Mai 2017.

Jam

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne