Math | dinas, tell |
---|---|
Enwyd ar ôl | Yarikh |
Poblogaeth | 23,220 |
Sefydlwyd |
|
Cylchfa amser | UTC+2 |
Gefeilldref/i | Pisa, Campinas, Kragujevac, Ilion, Calipatria, Iași, Lærdal Municipality, Eger, San Giovanni Valdarno, Lyon, Alessandria, Naoned, Santa Bárbara d'Oeste, Osmangazi |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llywodraethiaeth Jericho |
Gwlad | Palesteina |
Arwynebedd | 59 km² |
Uwch y môr | −275 metr |
Cyfesurynnau | 31.8561°N 35.4631°E |
Jericho (Arabeg: أريحا Arīḥā[ʔaˈriːħaː] (gwrando); Hebraeg Yeriḥo) yn ddinas Balesteinaidd yn y Lan Orllewinol. Mae wedi'i lleoli yn Nyffryn Iorddonen, gydag Afon Iorddonen i'r dwyrain a Jeriwsalem i'r gorllewin. Dyma sedd weinyddol Llywodraethiaeth Jericho ac mae'n cael ei llywodraethu gan Awdurdod Cenedlaethol Palesteina (y PLO).[1] Yn 2007, roedd ganddi boblogaeth o 18,346.
Yn dilyn ymyrraeth Prydain, atodwyd y ddinas yn rhan o Wlad Iorddonen rhwng 1949 a 1967 ac mae wedi cael ei feddiannu gan Israel ers 1967; trosglwyddwyd rheolaeth weinyddol Palesteina i Awdurdod Palestina ym 1994.[2][3] Credir ei bod yn un o'r dinasoedd hynaf yn y byd a cheir tystiolaeth i bobl fyw yma ers 9g CC.[4][5][6] Hi hefyd yw' ddinas gyda'r wal amddiffynnol hynaf y gwyddys amdani yn y byd, ac mae'r wal yn nodedig mewn caneuon poblogaidd hyd heddiw..[7] Cafwyd hyd i dros 20 o aneddiadau dynol yn Jericho, sy'n dyddio'n ôl 11,000 o flynyddoedd (9000 CC),[8][9] bron i ddechrau cyntaf y cyfnod Holosen yn hanes y Ddaear.[10][11] Credwyd bod gan Jericho y tŵr carreg hynaf yn y byd hefyd, ond mae gwaith cloddio yn Tell Qaramel yn Syria, gerllaw, wedi darganfod tyrau cerrig sydd hyd yn oed yn hŷn.[12][13]
Gwelir llawer o ffynhonnau yn y ddinas ac o'i chwmpas, sydd wedi denu pobl i fyw yn yr ardal,t am filoedd o flynyddoedd.[14] Disgrifir Jericho yn y Beibl Hebraeg fel "dinas y coed palmwydd".
Mae'r ddau enw Arabeg (ʼArīḥā) a Hebraeg (Yeriẖo) yn tarddu o'r gair Canaan Reah sy'n golygu arogl da neu o bosib 'lleuad' (Yareaẖ)
Credir yn gyffredinol bod enw Jericho yn Hebraeg, Yeriẖo, yn deillio o'r gair Canaaneaidd reaẖ ("persawrus"), ond damcaniaeth arall yw ei fod yn tarddu o'r gair Canaaneaidd am 'lleuad' (Yareaẖ) neu enw'r duw lleuad (Yarikh), yr oedd y ddinas yn ganolfan addoli gynnar iddo.[15]
Jericho, in the Jordan River Valley in the West Bank, inhabited from ca. 9000 BC to the present day, offers important evidence for the earliest permanent settlements in the Near East.