Math | dinas |
---|---|
Enwyd ar ôl | Shalim, Q12246332 |
Poblogaeth | 936,425 |
Sefydlwyd |
|
Pennaeth llywodraeth | Moshe Leon |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Jeriwsalem Fwyaf |
Sir | Llywodraethiaeth Jeriwsalem, Bwrdeistref Jeriwsalem |
Gwlad | Israel |
Arwynebedd | 125.42 km² |
Uwch y môr | 754 metr |
Yn ffinio gyda | Ramat Rachel, Mevaseret Zion, Beit Zayit, Hizma, Al-Ram, Ramallah, Even Sapir, Beit Yala, Abu Dis, Ora, Bethlehem |
Cyfesurynnau | 31.7789°N 35.2256°E |
Cod post | 91000–91999 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Bwrdeistref Jeriwsalem |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Jeriwsalem, Maer Jeriwsalem, Maer Jeriwsalem, henadur |
Pennaeth y Llywodraeth | Moshe Leon |
Prifddinas de facto gwladwriaeth Israel yw Caersalem neu Jeriwsalem (Jerusalem yn Saesneg; Yerushaláyim, ירושלים yn Hebraeg Diweddar, ירושלם yn Hebraeg clasurol; al-Quds, القدس, yn Arabeg). Mae hi'n dref hynafol o bwysigrwydd crefyddol arbennig yn hanes Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam. Er bod yr Israeliaid yn hawlio Caerselem yn brifddinas Israel, yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae'n ddinas a feddianwyd gan yr Israeliaid yn anghyfreithlon;[1][2][3][4] mae Awdurdod Cenedlaethol Palesteina hefyd yn ei hawlio fel prifddinas. Mewn canlyniad nid yw'n cael ei chydnabod fel prifddinas Israel gan y mwyafrif llethol o wledydd y byd (gweler isod). Mae ei phoblogaeth oddeutu 936,425 (2019)[5].
Mae holl adrannau llywodraeth Israel wedi'u lleoli yn Jeriwsalem, gan gynnwys y Knesset (senedd Israel), preswylfeydd y Prif Weinidog (y Beit Aghion) a'r Arlywydd (y Beit HaNassi), ac yma hefyd y mae'r Goruchaf Lys.
East Jerusalem is regarded as occupied Palestinian territory by the international community, but Israel says it is part of its territory.
East Jerusalem has been considered, by both the General Assembly and the Security Council, as part of the occupied Palestinian territory.
Recalling its resolutions... concerning measures and actions by Israel designed to change the status of the Israeli-occupied section of Jerusalem,...