John F. Kennedy | |
---|---|
Ganwyd | John Fitzgerald Kennedy 29 Mai 1917 Brookline |
Bu farw | 22 Tachwedd 1963 Parkland Memorial Hospital |
Man preswyl | John Fitzgerald Kennedy National Historic Site |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, newyddiadurwr, gwladweinydd, llenor, swyddog yn y llynges, anti-communist |
Swydd | Arlywydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Arlywydd-etholedig yr Unol Daleithiau |
Adnabyddus am | We choose to go to the Moon, Ich bin ein Berliner, Profiles in Courage |
Taldra | 185 centimetr |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | Joseph P. Kennedy |
Mam | Rose Kennedy |
Priod | Jacqueline Kennedy Onassis |
Partner | Marilyn Monroe, Inga Arvad, Gene Tierney, Gunilla von Post, Judith Exner, Mary Pinchot Meyer, Marlene Dietrich, Mimi Alford, Pamela Turnure, Florence Pritchett, Kay Stammers, Angie Dickinson, Jeanne Carmen, Frances Ann Cannon |
Plant | John F. Kennedy Jr., Patrick Bouvier Kennedy, Arabella Kennedy, Caroline Kennedy |
Llinach | Kennedy family |
Gwobr/au | Navy and Marine Corps Medal, Calon Borffor, American Defense Service Medal, Medal Ymgyrch America, Medal Ymgyrch 'Asiatic-Pacific', Medal 'Buddugoliaeth' yr Ail Ryfel Byd, Gwobr Pacem in Terris, Uwch swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr Pulitzer ar gyfer Bywgraffiad neu Hunangofiant, Grand Officer of the Order of the Star of Italian Solidarity, Medal Laetare, Person y Flwyddyn Time, Jane Addams Children's Book Award, James Cardinal Gibbons Medal |
Gwefan | https://www.whitehouse.gov/about-the-white-house/presidents/john-f-kennedy/ |
llofnod | |
Cafodd John Fitzgerald Kennedy, a adnabuwyd hefyd fel Jack Kennedy neu JFK (29 Mai 1917 – 22 Tachwedd 1963) ei ethol yn 35ain Arlywydd Unol Daleithiau America yn Nhachwedd 1960. Gwasanaethodd fel Arlywydd o hynny hyd ei farwolaeth sydyn yn Nhachwedd 1963. Ei obaith oedd cael gwared â thlodi ac anghydraddoldeb. Cynigiodd system uchelgeisiol o yswiriant iechyd y wladwriaeth, Mesur Cymorth Meddygol i'r Henoed a Mesur Hawliau Sifil, ond methodd gael digon o gefnogaeth yn y Gyngres. Ef, yn anad neb arall, a sefydlodd raglen ofod Apollo yn ogystal â chodi Mur Berlin, ac yn ystod ei yrfa, gwelwyd llawer o brotestiadau dros hawliau sifil. Yn gynnar yn ei arlywyddiaeth sefydlodd y Corfflu Heddwch.[1]
Ganwyd ef i deulu cyfoethog gyda chryn ddylanwad gwleidyddol yn Brookline, Massachusetts. Graddiodd o Brifysgol Harvard yn 1940 ac ymuno â Morwyr Wrth Gefn Llu Morwrol UDA y flwyddyn ddilynol. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n swyddog yn llynges yr Unol Daleithiau yn y Cefnfor Tawel, yn rheoli cyfres o gychod PT, ac enillodd Fedal y Corfflu Llyngesol a Morwrol am ei wasanaeth. Wedi cyfnod byr yn y byd newyddiaduraeth, bu Kennedy yn cynrychioli ardal ddosbarth gweithiol o ddinas Boston yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr rhwng 1947 a 1953. Cafodd ei ethol yn ddiweddarach i Senedd UDA a bu’n gwasanaethu fel is-Seneddwr Massachusetts rhwng 1953 a 1960. Tra'r oedd yn y Senedd, cyhoeddodd Kennedy ei lyfr, ‘Profiles in Courage’ a enillodd Wobr Pulitzer iddo.[2] Roedd cyfnod Kennedy fel arlywydd yn gyfnod llawn tensiynau, gyda thensiwn rhwng UDA a gwladwriaethau comiwnyddol adeg y Rhyfel Oer. O ganlyniad, cynyddodd Kennedy nifer y cynghorwyr milwrol oedd gan America yn Ne Fietnam. Yn Ebrill 1961, awdurdododd ymdrech i ddymchwel y llywodraeth yn Ciwba ar y pryd, sef llywodraeth Fidel Castro, yng ngoresgyniad Bae’r Moch. Yn ogystal, awdurdododd Kennedy y Prosiect Ciwbaidd yn Nhachwedd 1961 gyda’r bwriad o oresgyn Ciwba yn ystod haf 1962. Yn Hydref 1962, darganfu awyrennau ysbïo UDA bod canolfannau taflegrau Sofietaidd wedi cael eu hadeiladu ar ynys Ciwba, ac arweiniodd hyn at Argyfwng Taflegrau Ciwba - argyfwng a ddaeth â’r byd at drothwy rhyfel niwclear. Bu Kennedy yn llywyddu hefyd dros sefydlu'r Corfflu Heddwch a sicrhau parhad rhaglen ofod Apollo. Roedd hefyd yn gefnogol i’r Mudiad Hawliau Sifil a bu’n rhannol lwyddiannus wrth basio a gweithredu ei bolisïau domestig a adnabuwyd fel polisïau’r Ffin Newydd.
Ar ddechrau ei ymgyrch i'w ailethol yn Arlywydd, ar 22 Tachwedd 1963, aeth gyda'i wraig Jackie i Dallas, Texas. Wrth deithio mewn car to agored yno, fe'i saethwyd ddwywaith. Cludwyd ef i Ysbyty Parkland, lle bu farw am 13:00. Ar ei farwolaeth olynwyd ef gan y Dirprwy Arlywydd, sef Lyndon Johnson, a dyngodd lw fel yr arlywydd newydd yn syth wedi llofruddiaeth JFK. Cafodd Lee Harvey Oswald, cyn aelod o'r Llu Morwrol (Marines) gyda thueddiadau Marcsaidd, ei gyhuddo o ladd Kennedy, ond cafodd Oswald ei saethu'n farw gan Jack Ruby ar 24 Tachwedd 1963, cyn iddo sefyll ei brawf. Arweiniodd hyn at amryw o theorïau ynglŷn â llofruddiaeth John F. Kennedy.
Daeth yr FBI a Chomisiwn y Barnwr Warren i’r casgliad bod Oswald wedi gweithredu yn annibynnol wrth lofruddio’r arlywydd, ond roedd llawer o grwpiau yn cwestiynu penderfyniad Comisiwn Warren ac yn credu bod Kennedy wedi bod yn darged cynllwyn. Ar ôl ei farwolaeth, cafodd llawer o gynlluniau Kennedy eu gweithredu gan Lywodraeth Johnson, gan gynnwys Deddfau Hawliau Sifil 1964 a 1965 a Deddf Incwm 1964. Bu ei fywyd personol yn destun trafodaeth ddwys ar ôl i wybodaeth newydd am ei wahanol gyflyrau iechyd a sawl perthynas y tu allan i’w briodas ddod i’r amlwg yn ystod y 1970au.
Un o'i blant sydd wedi goroesi, sef Caroline Kennedy, sy'n gyfreithwraig, yn wleidydd ac yn awdur.