Jugurtha | |
---|---|
Jugurtha mewn cadwynau o flaen Sulla, o La conjuracion de Catilina y la Guerra de Jugurta (Madrid, 1772), cyfieithiad o waith Sallust | |
Ganwyd | 160 CC Cirta |
Bu farw | 104 CC Rhufain |
Dinasyddiaeth | Numidia |
Galwedigaeth | arweinydd milwrol, brenin neu frenhines |
Swydd | King of Numidia |
Tad | Mastanabal |
Priod | Bocchus' daughter |
Plant | Oxyntas |
Perthnasau | Bocchus I, Micipsa |
Brenin Numidia oedd Jugurtha, (tua 160 CC - 104 CC). Ein prif ffynhonnell amdano yw gwaith yr awdur Rhufeinig Sallust.
Ganed ef yn Cirta, dinas hynafol a safai ar safle dinas Constantine yn Algeria heddiw. Roedd yn ŵyr i Masinissa, oedd wedi creu teyrnas Numidia, ac wedi gwneud cynghrair a Gweriniaeth Rhufain. Yn 148 CC dilynwyd ef gan ei fab Micipsa. Roedd Jugurtha, oedd yn nai i’r brenin, mor boblogaidd ymysg y bobl nes i Micipsa ei yrru i Sbaen i’w gael o’r ffordd. Yno, ymladdodd gyda’r Rhufeiniaid dan Gaius Marius yn y gwarchae ar Numantia.
Pan fu farw Micipsa yn 118 CC, dilynwyd ef gan ei ddau fab, Hiempsal ac Adherbal. Bu cweryl rhwng Hiempsal a Jugurtha, a lladdwyd Hiempsal ar orchymyn Jugurtha. Canlyniad hyn oedd rhyfel rhyngddo ef ac Adherbal. Wedi i Jugurtha ei orchfygu mewn brwydr, ffodd Adherbal i Rufain i ofyn cymorth. Penderfynodd Rhufain rannu’r deyrnas yn ddwy, gyda Jugurtha yn frenin y rhan orllewinol.
Erbyn 112 CC roedd Jugurtha ac Adherbal yn ymladd eto. Lladdodd Jugurtha nifer o wyr busnes o’r Eidal oedd wedi helpu Adherbal, a bu rhyfel yn erbyn Rhufain. Ildiodd Jugurtha heb fawr o ymladd, a gwnaed cytundeb heddwch ffafriol iawn, gan godi amheuon ei fod wedi llwgrwobrwyo y cadfridog Rhufeinig.
Yn fuan, bu rhyfel arall rhwng Numidia a Rhufain, a gyrrwyd nifer o lengoedd i Ogledd Affrica dan y conswl Quintus Caecilius Metellus, gyda Gaius Marius fel un o’i brif swyddogion. Wrth i’r rhyfel lusgo ymlaen heb fuddugoliaeth derfynol, dychwelodd Marius i Rufain, lle’r etholwyd ef yn gonswl. Dychwelodd i Numidia i gymeryd lle Metellus fel cadfridog. Y flwyddyn ddilynodd, teithiodd ei swyddog Lucius Cornelius Sulla i Mauretania, lle gallodd berswadio’r brenin Bocchus I i drosglwyddo Jugurtha iddo fel carcharor.
Aed a Jugurtha yn garcharor i Rufain, ac wedi i Marius ddathlu ei fuddugoliaeth dros Numidia yn 104 CC, dienyddiwyd ef.
Ymestynnai teyrnas Jugurtha i gynnwys rhai ardaloedd sydd yng ngogledd-orllewin Tiwnisia heddiw, gan gynnwys Sicca Veneria (El Kef). I'r de-orllewin o'r ddinas honno ceir mynydd uchel trawiadol gyda chopa gwastad eang a elwir hyd heddiw yn Fwrdd Jugurtha (Table de Jugurtha, 1271 m).