Math | dinas, dinas fawr, prifddinas ffederal |
---|---|
Poblogaeth | 5,345,000 |
Cylchfa amser | UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Khartoum |
Gwlad | Swdan |
Arwynebedd | 30,000 km² |
Uwch y môr | 382 metr |
Gerllaw | Afon Nîl, Afon Nîl Wen, Afon Nîl Las |
Yn ffinio gyda | Khartoum North, Omdurman |
Cyfesurynnau | 15.6031°N 32.5265°E |
Prifddinas y Swdan yw Khartoum (Arabeg al-Khurtum). Mae ganddi boblogaeth o tua hanner miliwn.
Mae'r ddinas yn sefyll ar aber Afon Nîl Wen ac Afon Nîl Las (sydd ar ôl ymuno â'i gilydd yn ffurfio Afon Nîl ei hun ac yn llifo i gyfeiriad y gogledd i'r Aifft a'r Môr Canoldir).
Dim ond gwersyllfa ar gyfer byddin yr Aifft oedd hi ar ddechrau'r 19g, a droes yn dref garsiwn. Yn ddiweddarach fe'i meddianwyd gan luoedd Prydain. Lladdwyd y Cadfridog Gordon ("Gordon o Khartoum") yno ym 1885 pan gipiwyd y dref garsiwn a'i dinistrio gan fyddin y Mahdi. Llwyddodd llu Brydeinig i'w chipio eto yn 1898 ac fe'i ailadeiladwyd yn sylweddol ganddynt.
Ceir sawl mosg ac eglwys gadeiriol yn y ddinas sydd bellach yn ganolfan fasnach ac yn cynhyrchu brethyn, gwydr a nwyddau eraill.