Kim Jong-un | |
Darlun o Kim Jong-un | |
Deiliad | |
Cymryd y swydd 11 Ebrill 2012 | |
Dirprwy | Kim Yong-nam Choe Yong-rim Choe Ryong-hae Ri Yong-ho |
---|---|
Rhagflaenydd | Kim Jong-il (Ysgrifennydd Cyffredinol) |
Geni | |
Plaid wleidyddol | Plaid Gweithwyr Corea |
Priod | Ri Sol-ju |
Plant | Kim Ju-ae |
Alma mater | Prifysgol Kim Il-sung Prifysgol Milwrol Kim Il-sung |
Galwedigaeth | |
Crefydd | Dim |
Llofnod |
Mae Kim Jong-un (Coreeg: 김정은, /ɡ̊imd͜zɔŋɯn/ , ganed 8 Ionawr 1983[1]) yn arweinydd unbenaethol Gweriniaeth Pobl Ddemocrataidd Corea (Gogledd Corea). Sillafir ei enw gyda'r wyddor rhufeinig weithiau fel Kim Jong-eun a Kim Jung-eun. Fo yw trydydd mab a phlentyn ieuangaf Kim Jong-il a bu iddo olynu ei dad yn dilyn ei farwolaeth ar 17 Rhagfyr 2011.