Kublai Khan | |
---|---|
Ganwyd | 23 Medi 1215 Ymerodraeth y Mongol |
Bu farw | 18 Chwefror 1294 Khanbaliq |
Dinasyddiaeth | Brenhinllin Yuan |
Galwedigaeth | person milwrol |
Swydd | khan, khagan, Ymerawdwr Tsieina |
Cartre'r teulu | Daxing County |
Tad | Tolui |
Mam | Sorghaghtani Beki |
Priod | Tëgülun, Chabi, Nambui, Talahai khatun, Nuhan, Bayaujin Khatun, Khökhlun Khatan, Qoruchin Khatun, Sugedasi |
Plant | Dorji, Zhenjin, Mangala, Nomugan, Khökhechi, Ayachi, Auruyvci, Kuokuochu, Togoon, Hutulu Temür, Tamachi, Princess Jeguk, Yuelie, Wuluzhen, Yuelun, Wanze, Nangjiazhen, Qoridai, Asudai, Bantu, Boyalun, Shireki, Shilin |
Llinach | Borjigin |
Arweinydd (Khan) yr Ymerodraeth Fongolaidd oedd Kublai Khan (Mongoleg: Хубилай хаан; Choebilaj chaan, Tsieineeg: 孛儿只斤忽必烈) (23 Medi 1215 - 18 Chwefror 1294). Ef oedd ymerawdwr cyntaf Brenhinllin Yuan yn Tsieina, o 1279 hyd ei farwolaeth.
Roedd Kublai yn ail fab i Tolui a Sorghaghtani Beki, ac felly yn ŵyr i Genghis Khan. Roedd ganddo dri brawd, Möngke, Hulagu ac Ariq Boke. Daeth y brawd hynaf, Möngke yn khagan yn 1251, a phendodd ef Kublai yn llywodraethwr rhan ddeheuol yr ymerodraeth. Bu farw Möngke yn annisgwyl yn 1259, a chyhoeddodd Ariq Boke ei hun yn khagan. Dechreuodd ymladd rhyngddo ef a Kublai yn 1260, a ddiweddodd pan gymerwyd Ariq Boke yn garcharor yn 1264.
Sefydlodd Kublai ei brifddinas yn Khanbalik, Beijing heddiw. Yn ystod teyrnasiad Kublai, ychwanegwyd Corea at yr ymerodraeth, a gwnaed ymdrechion aflwyddiannus i goncro Siapan a De-ddwyrain Asia. Ymwelodd Marco Polo a'r ymerodraeth yn y cyfnod yma.
Wedi marwolaeth Kublai, collodd ei olynwyr reolaeth ar Mongolia, ond dilynodd ei ŵyr Chengzong ef fel Ymerawdwr Tsieina.