Llyfr gan y dyneiddiwr Cymreig William Salesbury yw Kynniver Llith a Ban (cyhoeddwyd yn 1551), sy'n cynnwys cyfieithiad Cymraeg y darlleniadau o'r Efengylau a'r Epistolau sydd yn y Llyfr Gweddi Gyffredin Saesneg a ddefnyddid gan Eglwys Loegr. Dyma'r tro cyntaf, hyd y gwyddys, i rannau sylweddol o'r Testament Newydd gael eu cyfieithu i'r Gymraeg yn uniongyrchol o'r testunau Groeg gwreiddiol.[1] Mae'n rhagredegydd i'r cyfieithiad Cymraeg o'r Testament Newydd gan Salesbury a chyfieithiad William Morgan o'r Beibl yn 1588.[2]