Lewys Morgannwg | |
---|---|
Ganwyd | Tir Iarll, Sir Forgannwg |
Bu farw | 1565 |
Man preswyl | Llanilltud Fawr |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1520 |
Tad | Rhisiart ap Rhys |
Lewys Morgannwg oedd enw barddol y bardd Cymraeg proffesiynol Llywelyn ap Rhisiart, (fl. 1520-1565). Roedd yn ‘Bencerdd y Tair Talaith,’ ac yn un o feirdd mwyaf y 16g. Canai Lewys yn nhai Syr William Griffith o Benrhyn a noddwyr eraill. Roedd hefyd yn athro barddol; un o'i ddisgyblion mwyaf blaengar oedd Gruffudd Hiraethog.[1]