Lladin Llafar (yn Lladin, sermo vulgaris, "iaith y werin") oedd y tafodieithoedd o'r iaith Ladin a siaredid gan werin-bobl yr Ymerodraeth Rufeinig. Ymrannodd y tafodieithoedd yn yr Oesoedd Canol Cynnar gan ddatblygu i'r ieithoedd Romáwns erbyn y 6g.
Roedd Lladin Llafar yn wahanol i Ladin Clasurol yn ei hynganiad, geirfa a gramadeg. Nid oedd Lladin Llafar yn iaith ysgrifenedig felly mae'n rhaid i ieithyddion droi at ddulliau anuniongyrchol o'i hastudio.