Math | pentrefan |
---|---|
Enwyd ar ôl | Afan Buallt |
Poblogaeth | 470 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanafanfawr |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 8,251.45 ha |
Cyfesurynnau | 52.1908°N 3.5102°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Pentref bychan, cymuned a phlwyf yn ardal Brycheiniog, Powys, Cymru, yw Llanafan Fawr (ffurfiau amgen: Llanafan-fawr[1] / Llanafan-Fawr). Mae'n gorwedd tua 5 milltir i'r gorllewin o dref Llanfair-ym-Muallt.
Gorwedd Llanafan Fawr ar lan afon Chwerfru, ffrwd sy'n rhedeg i lawr o lethrau'r Garn ym mryniau Elenydd i ymuno yn afon Irfon ger Llanfair-ym-Muallt.
Enwir y pentref a'r plwyf ar ôl Sant Afan ('Afan Buallt' neu'r 'Esgob Afan', fl. 500-542). Yn ôl traddodiad llofruddiwyd Afan gan fintai o Wyddelod ar gyrch ym Mrycheiniog ym 542, ar lan ffrwd yn y plwyf a elwir yn Nant Esgob.[2] Yn llan yr eglwys a gysegrir i'r sant ceir pren ywen sydd wedi sefyll yno am tua 2,000 o flynyddoedd.
Bu'r ysgolhaig a bardd Evan Evans (Ieuan Fardd) yn gurad yn Llanafan Fawr ddiwedd y 1750au. Mae'r bardd Saesneg T. Harri Jones yn enedigol o'r pentref.
Dywedir bod Tafarn y Llew Coch yn y pentref yn dyddio i'r 12g, er nad yw'r adeilad ei hun yn dyddio o'r cyfnod hwnnw. Cynhelir Sioe Amaethyddol Llanafan Fawr bob blwyddyn ar y trydydd Sadwrn ym mis Medi. Poblogaeth y gymuned yn 2001 oedd 475.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[4]