Math | tref, cymuned |
---|---|
Enwyd ar ôl | Illtud |
Poblogaeth | 16,196 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhondda Cynon Taf |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5578°N 3.3341°W |
Cod SYG | W04001015 |
Cod OS | ST076851 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mick Antoniw (Llafur) |
AS/au y DU | Alex Davies-Jones (Llafur) |
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Llanilltud Faerdref (Saesneg: Llantwit Fardre). Saif ychydig i'r de o dref Pontypridd. Heblaw pentref Llanilltud Faerdref ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Pentre'r Eglwys (Gartholwg), Efail Isaf a Thonteg. Roedd poblogaeth y gymuned yn 13,993 yn 2001.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mick Antoniw (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Alex Davies-Jones (Llafur).[1][2]
Ceir gweddillion castell mwnt a beili o'r 12g, Tomen y Clawdd, yn y gymuned, gerllaw Tonteg. Dechreuodd diwydiant ddatblygu yma tua diwedd y 17g, ond erbyn hyn mae cyfran helaeth o'r boblogaeth yn teithio i Gaerdydd. Mae'n cynnwys rhan o Stad Ddiwydiannol Trefforest.
Sant o'r 6g oedd Illtud ac mae nifer o eglwysi yn ne Cymru wedi eu henwi ar ei ôl. Roedd ffynnon yma yn y 12ed ganrif, wedi ei enwi ar ei ôl (y fonte Sancti Ylthuti) yn Nihewyd tua milltir i'r de o'r eglwys.