Math | cymuned, tref |
---|---|
Poblogaeth | 9,519 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bro Morgannwg |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.4062°N 3.475°W |
Cod SYG | W04000918 |
Cod OS | SS975685 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jane Hutt (Llafur) |
AS/au y DU | Kanishka Narayan (Llafur) |
Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru yw Llanilltud Fawr[1] (Saesneg: Llantwit Major).[2]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Kanishka Narayan (Llafur).[4]
Ceir olion hen fila Rhufeinig tua 1 filltir o'r dref.
Mae hen eglwys Sant Illtud yn enwog iawn. Mae'n sefyll ar safle'r hen fynachlog (clas) a sefydlwyd yno gan y sant yn y 6g. Daeth yn ganolfan dysg bwysig a dylanwadol yn yr Oesoedd Canol cynnar. Roedd yn mwynhau nawdd brenhinoedd fel Hywel ap Rhys, brenin Glywysing (m. 886), a gladdwyd yno. Cafodd mynachlog Llanilltud ei hanreithio gan y Llychlynwyr yn 988. Daeth yr eglwys yn eiddo Abaty Tewkesbury tua 1130 ar ôl i'r Normaniaid orsegyn teyrnas Morgannwg.
Mae'n bosibl fod y bardd Lewys Morgannwg (fl. 1520-1565) wedi byw yn Llanilltud Fawr, er ei fod yn frodor o Dir Iarll. Canodd gerdd i Illtud Sant sydd ar glawr heddiw.
Yn y flwyddyn 1100 yr ymddengys y gair yn gyntaf yn ysgrifenedig, "Llan Iltut", sy'n dangos yn amlwg mai "Illtud" yw tarddiad y gair, nid "twit" (Llantwit Major ydy'r gair yn Saesneg).