Eglwys Sant Rhian, Llanrhian | |
Math | cymuned, pentrefan |
---|---|
Enwyd ar ôl | Rhian |
Poblogaeth | 887 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.9381°N 5.1728°W |
Cod SYG | W04000947 |
Cod OS | SM8131 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Benfro, Cymru, yw Llanrhian.[1][2] Saif yng ngogledd y sir, i'r gorllewin-ddwyrain o ddinas Tyddewi, i'r gogledd o briffordd yr A487 i Abergwaun.
Dyddia tŵr yr eglwys, a gysegrwyd i Sant Rhian, o'r 13g. Mae tîm criced Llanrhian yn adnabyddus, ac wedi cael llwyddiant eithriadol i dîm o bentref mor fychan.
Heblaw pentref Llanrhian ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys Trefin a Phorth-gain. Ar un adeg roedd y diwydiant llechi yn bwysig yn yr ardal, gyda chwareli yn Abereiddi, Porth-gain a Thrwyn Llwyd. Allforid y llechi o borthladd bychan Porth-gain.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 897.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[4]