Math o gyfrwng | uned filwrol |
---|---|
Daeth i ben | Rhagfyr 2014 |
Dechrau/Sefydlu | Rhagfyr 2001 |
Yn cynnwys | ISAF Joint Command |
Olynydd | Resolute Support Mission |
Pencadlys | Kabul |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llu milwrol a arweinir gan NATO yn Affganistan yw'r Llu Cynorthwyol Diogelwch Rhyngwladol neu ISAF a sefydlwyd gan Benderfyniad 1386 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ar 20 Rhagfyr 2001. Mae'n cymryd rhan yn Rhyfel Affganistan.
Mae gwledydd sy'n cyfrannu lluoedd yn cynnwys Rwmania, Gwlad Belg, Bwlgaria, Denmarc, Canada, yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Ffrainc, yr Almaen, De Corea, Sbaen, Twrci, Gweriniaeth Iwerddon, Gwlad Pwyl, Portiwgal, a'r mwyafrif o aelodau'r Undeb Ewropeaidd a NATO a hefyd Awstralia, Seland Newydd, Aserbaijan, a Singapôr.
Wrth i ISAF encilio o Affganistan mae'n trosglwyddo'i gyfrifoldebau i Luoedd Diogelwch Cenedlaethol Affganistan (ANSF), ond mae'r berthynas wedi ei niweidio gan ymosodiadau "gwyrdd-ar-las" gan aelodau ANSF yn erbyn lluoedd ISAF, a gan gyrchoedd awyr NATO ar sifiliaid yn Affganistan.[1][2][3]