Math | llwybr troed, atyniad twristaidd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cymru |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 52.39°N 4°W |
Llwybr pellter hir sy'n dilyn holl arfordir Cymru yw Llwybr Arfordir Cymru. Mae'n ymestyn am 870 milltir (1,400 km) o gyrion Caer yn y gogledd i Gas-gwent yn y de.[1] Agorwyd y llwybr yn swyddogol ar 5 Mai 2012 ond mae'n defnyddio sawl llwybr hŷn megis Llwybr Arfordirol Ynys Môn a Llwybr Arfordir Sir Benfro. Mae'n rhedeg trwy ddau Barc Cenedlaethol, tair Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac 11 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.[2]
Mae'r llwybr mor agos i’r arfordir ag y caniatâ’r gyfraith, ac yn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch, rheoli tir a chadwraeth.[3]