Llyffant y twyni | |
---|---|
Oedolyn ger Badilla, Sbaen | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Anura |
Teulu: | Bufonidae |
Genws: | Epidalea Cope, 1864 |
Rhywogaeth: | E. calamita |
Enw deuenwol | |
Epidalea calamita (Laurenti, 1768) | |
Cyfystyron | |
Bufo calamita |
Llyffant a geir mewn twyni a rhostir yng ngorllewin a chanolbarth Ewrop yw llyffant y twyni (Epidalea calamita). Mae'r gwryw'n 5–6.5 cm o hyd ac mae'r fenyw'n 6–7.5 cm.[2] Mae ei groen yn frown, llwyd neu wyrdd gyda llinell felen ar hyd y cefn.[3] Mae'n bwydo ar chwilod a phryfed eraill fel rheol.[2]
Mae'n brin iawn yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon. Yng Nghymru, mae wedi cael ei ailgyflwyno i Dalacre a Gronant.[4]