Enghraifft o'r canlynol | Gospel Book, llawysgrif goliwiedig |
---|---|
Iaith | Hen Gymraeg, Lladin |
Tudalennau | 236 |
Dechrau/Sefydlu | c. 730 |
Olynwyd gan | Llyfr Kells |
Lleoliad | Eglwys Gadeiriol Caerlwytgoed |
Lleoliad cyhoeddi | Llandeilo |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llawysgrif Ladin a gedwir yng nghadeirlan Caerlwytgoed (Saesneg: Lichfield) yng nghanolbarth Lloegr yw Llyfr Sant Chad (a elwir hefyd yn Llyfr Teilo ac Efengylau Caerlwytgoed). Mae'n cynnwys Efengylau Mathew a Marc a rhan o Efengyl Luc. Mae'r testunau mewn ysgrifen Ynysig ac yn dyddio o hanner cyntaf yr 8g. Mae'r llawysgrif wedi'i haddurno'n gain yn yr arddull Geltaidd tebyg i'r hyn a welir yn Llyfr Lindisfarne.