Llyfr y Pregethwr

Llyfr y Pregethwr
Tudalen o Lyfr y Pregethwr ym Meibl Cervera, llawysgrif Hebraeg o Gatalwnia (1299–1300).
Math o gyfrwngysgrythur, un o lyfrau'r Beibl Edit this on Wikidata
Rhan oMegillot, Ketuvim, yr Hen Destament, Llyfrau Barddonol Edit this on Wikidata
IaithHebraeg Edit this on Wikidata
GenreLlên ddoethineb Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganLlyfr y Diarhebion Edit this on Wikidata
Olynwyd ganCaniad Solomon Edit this on Wikidata
Yn cynnwysEcclesiastes 1, Ecclesiastes 2, Ecclesiastes 3, Ecclesiastes 4, Ecclesiastes 5, Ecclesiastes 6, Ecclesiastes 7, Ecclesiastes 8, Ecclesiastes 9, Ecclesiastes 10, Ecclesiastes 11, Ecclesiastes 12 Edit this on Wikidata
Enw brodorolמְגִלַּ‏ת קֹ‏הֶ‏לֶ‏ת Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Un o lyfrau'r Beibl Hebraeg a'r Hen Destament yn y Beibl Cristnogol yw Llyfr y Pregethwr (Hebraeg: Qohelet, Groeg: Ekklēsiastēs). Fe'i cynhwysir yn adran y Ketuvim yn y Beibl Hebraeg ac yn un o bum testun y Megillot ("sgroliau"). Esiampl o lên ddoethineb ydyw.

Priodolir y llyfr gan uwchnodiad y testun (1:1) i "bregethwr" neu "athro": "Geiriau yr Athro, mab Dafydd; brenin yn Jerwsalem."[1] Yn ôl y traddodiad Iddewig, y Brenin Solomon (10g CC) ydy'r awdur felly. Er hynny, ymddengys ffurfiau Aramaeg yn aml yn y testun ac mae'n debyg iddo gael ei ysgrifennu tua ail hanner y 3g CC.[2]

  1. "Pregethwr 1", beibl.net. Adalwyd ar 28 Medi 2020.
  2. (Saesneg) Ecclesiastes. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Medi 2020.

Llyfr y Pregethwr

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne