Llygredd aer

Llygredd aer
Math o gyfrwngtype of pollution Edit this on Wikidata
Mathllygredd amgylcheddol, llygredd, emission Edit this on Wikidata
AchosCar, echdoriad folcanig, tân gwyllt, llwch, carbon monocsid edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
 Rhybudd! Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon.
Beth am fynd ati i'w chywiro?

Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol.

Llygredd awyr uwchben Sanlitun, Beijing, Tsiena (2014)

Llygredd a achosir drwy ryddhau nwyon, solidau mân, neu erosolau hylifol gwasgarog i'r atmosffer ar gyfradd sy'n mynd yn fwy na'r gallu naturiol i wasgaru, gwanhau neu amsugno'r sylweddau hynny yw llygredd aer.[1] Fel arfer cyfeiria "llygredd" at allyriannau gan ddyn (anthropogenig). O bryd i'w gilydd mae hefyd ffynonellau eraill o'r un sylweddau. Gall hyn creu dryswch wrth drafod cyfrifoldebau. Yn 2014 adroddodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) y bu llygredd awyr yn gyfrifol am tua 7 miliwn marwolaeth cyn ei amser yn 2012[2]. Yn ôl data Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyhoeddwyd gan y BBC yn 2017[3] mae tua 2,000 yn marw (ryw 6% o'r cyfanswm) cyn ei hamser yng Nghymru pob blwyddyn o'i effaith; yn ail dim ond i ysmygu ac yn fwy o gonsýrn na gordewdra ac alcohol[3].

Cyhoeddir ar-lein adroddiadau cyson (beunyddiol ?) a manwl o ryw 40 safle monitro[4] gan Ansawdd Aer (Awyr) Cymru. Ceir hefyd ar ei wefan adroddiadau seminarau a ffeithiau ar y pwnc[5].  (Sefydlwyd Fforwm Ansawdd Aer Cymru yn 1994 gan banel Swyddogion Uwch Iechyd yr Amgylchedd yng Nghymru - fel y'u gelwyd ar y pryd[6].)

  1. (Saesneg) Air pollution. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Chwefror 2014.
  2. 7 million premature deaths annually linked to air pollution (WHO, 24/3/2014) [1]
  3. 3.0 3.1 Llygredd aer yn 'argyfwng' iechyd cyhoeddus yng Nghymru (BBC Cymru Fyw, 7/3/2017) [2]
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-04-22. Cyrchwyd 2017-07-07.
  5. "Ansawdd Aer Cymru. (darllenwyd 07/07/2017)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-25. Cyrchwyd 2017-07-07.
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-05. Cyrchwyd 2017-07-07.

Llygredd aer

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne