Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.0947°N 3.6474°W |
Llyn ar Fynydd Hiraethog yn sir Conwy yw Llyn Alwen. Saif i'r gogledd o'r briffordd A543 ac i'r gogledd-ddwyrain o bentref Pentrefoelas, rhwng bryniau Pen yr Orsedd a Moel Llyn. Mae'n lyn gweddol fawr, gydag arwynebedd o 65 acer, a saif 384 medr (1260 troedfedd) uwch lefel y môr.
Yma mae tarddle Afon Alwen, sy'n llifo tua'r de-ddwyrain i groesi'r A543 cyn cyrraedd Cronfa Alwen. Roedd Llyn Alwen yn elfen bwysig wrth ddynodi Mynydd Hiraethog yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.