Math o gyfrwng | llyn, area not part of a municipality of Switzerland |
---|---|
Rhan o | Italy–Switzerland border, Northern Italian lakes |
Enw brodorol | Lago Maggiore |
Gwladwriaeth | Y Swistir, yr Eidal |
Rhanbarth | Ticino, Piemonte, Lombardia |
Hyd | 66 cilometr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r Llyn Maggiore (Eidaleg: Lago Maggiore; Lladin: Lacus Verbanus) yn 212 km² o faint, 60 km o hyd a hyd at 10 km o led. Ystyr yr enw yw'r "Llyn Fwyaf" yn yr Eidaleg. Mae'r llyn wedi'i leoli ar ochr ddeheuol yr Alpau. Dyma'r ail lyn mwyaf yn yr Eidal a'r mwyaf yn ne'r Swistir. Rhennir y llyn a'i draethlin rhwng rhanbarthau Eidalaidd Piedmont a Lombardia a chanton Ticino yn y Swistir sef, ardal Swistir Eidalaidd.. Wedi'i leoli hanner ffordd rhwng Llyn Orta a Llyn Lugano, mae Llyn Maggiore yn ymestyn am oddeutu 65 cilomedr (40 milltir) rhwng Locarno ac Arona.