Arfau llinach Aberffraw | |
Enghraifft o: | teulu o uchelwyr |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Rhan o | teulu brenhinol Gwynedd |
Yn cynnwys | Syr John Wynn |
Sylfaenydd | Anarawd ap Rhodri |
Enw brodorol | Llinach Aberffraw |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llys brenhinol a llinach frenhinol, ganoloesol oedd Llys Aberffraw gyda'u pencadlys ym mhentref Aberffraw, Ynys Môn, o fewn ffiniau Teyrnas Gwynedd ar y pryd. Sefydlwyd y llinach yn y 9g gan Rhodri Mawr, Brenin Cymru gyfan, a sefydlodd gyda'i ddisgynyddion 'Lysoedd Brenhinol Cymru'. Ceir dwy linach Gymreig ganoloesol arall: Llys Brenhinol Dinefwr, a Llys Brenhinol Mathrafal. Yn nhestunau cyfreithiol yr oes, fe'i disgrifir fel 'eisteddle arbennig' llinach Gwynedd. Mabwysiadodd Llywelyn ap Iorwerth y teitl 'Tywysog Aberffraw' er mwyn pwysleisio ei statws unigryw.[1] Hyd yn oed erbyn 1377 roedd cefnogwyr Owain Lawgoch yn pwysleisio 'ei fonedd o Aberffraw'.
Ystyrir bod y Llys Brenhinol yn derm hanesyddol ac achyddol y mae haneswyr yn ei ddefnyddio i ddarlunio llinell yr olyniaeth oddi wrth Rhodri Mawr Cymru trwy ei fab hynaf Anarawd o'r 870au OC.[2][3] Ffynnodd y llinach am ganrifoedd nes tranc y teulu brenhinol yn ystod y 13g oherwydd ymosodiadau parhaus byddin Lloegr yn enwedig ymosodiad Edward I ar Gymru, marw'r Tywysog Llywelyn II ar 11 Rhagfyr 1282, a Dafydd III ei frawd yn 1283. Disgynnydd uniongyrchol llinellol olaf Llys Aberffraw oedd Owain Lawgoch, a fu farw yn y 14g. Ers hynny mae sawl teulu bonheddig Cymreig wedi honni eu bod yn ddisgynyddion gwrywaidd i'r teulu.[4]
Yn draddodiadol rhanwyd Gwynedd yn ddwy ardal: "Gwynedd Uwch Conwy a "Gwynedd Is Conwy, gydag Afon Conwy yn ffin rhwng y ddwy ran.
Yn ôl Historia Brittonium (‘Hanes y Brythoniaid’, 9g) roedd Cunedda Wledig[5] a'i feibion wedi dod i lawr i ogledd-orllewin Cymru o'r Hen Ogledd, sef rhan ddeheuol yr Alban yn awr, er mwyn erlid y Gwyddelod o Wynedd, gan sefydlu teyrnas Gwynedd yn sgil hynny.[6] Yr hen enw mewn Lladin oedd Venedotia.[7] Mae dadlau ynghylch pryd digwyddodd hyn, gyda’r dyddiadau'n amrywio o ddiwedd y 4g i ddechrau’r 5g OC.