Diet sy'n eithrio cig (gan gynnwys helwriaeth, pysgod, dofednod ac unrhyw sgil gynnyrch lladd anifeiliaid) yw llysieuaeth.[1][2] Mae sawl amrywiaeth ar y diet sy'n eithrio wyau a neu unrhyw gynnyrch anifeiliaid megis cynnyrch llaeth a mêl.
Ffurf o lysieuaeth yw diet fegan, sy'n eithrio pob cynnyrch anifeiliaid megis cig, pysgod, cynnyrch llaeth, ac wyau. Mae feganiaeth llym hefyd yn eithrio'r defnydd o gynnyrch anifeiliaid megis gwlân, sidan, lledr a ffwr ar gyfer gwisg neu addurn, er nad yw'r rhain yn ymwneud â marwolaeth neu laddfa anifail.[3]
Mae'r rhan fwyaf o lysieuwyr yn bwyta cynnyrch llaeth ac wyau. Mae llysieuaeth-lactos yn cynnwys cynnyrch llaeth ond yn eithrio wyau, llysieuaeth-ofo yn cynnwys wyau ond nid cynnyrch llaeth, ac mae llysieuaeth-lactos-ofo yn cynnwys wyau a chynnyrch llaeth.
Mae diet rhannol-lysieuaeth yn cynnwys bwydydd llysieuol yn bennaf, ond hefyd yn cynnwys pysgod ac weithiau dofednod, yn ogystal ag wyau a chynnyrch llaeth. Mae'r cysylltiad rhwng rhannol-lysieuaeth a gwir lysieuaeth yn gyffredin yn achosi cymysgedd yn yr eirfa, yn arbennig llysieuaeth-pysgod sy'n cynnwys pysgod, a cham-gategoreiddio nifer o ddietau fel rhai llysieuol.[4][5] Dechreuwyd defnyddio'r term llysieuwyr yn gyffredin gan Gymdeithas y Llysieuwyr, cyn gynhared â 1847, mae'r gymdeithas yn condemnio cysylltiad dietau rhannol-lysieuaeth fel llysieuaeth ddilys; mae'n gymdeithas yn dweud nad yw bwyta pysgod yn llysieuol.[6]
Mae'r rhesymau dros ddewis llysieuaeth yn amrywio o foesoldeb, crefydd, diwylliant, moeseg, estheteg, amgylchedd, cymdeithas, economi, gwleidyddiaeth, blas neu iechyd. Mae dietau llysieuol sydd wedi eu cynllunio'n gywir wedi eu canfod i ateb anghenion maeth pob cyfnod o fywyd, ac mae astudiaethau ehangach wedi dangos fod llysieuaeth yn arwain i debygolrwydd llai o ddatblygu cancr, clefyd y galon ischaemig, a chlefydau eraill.[7][8][9][10]