Delwedd loeren o ynys Luzon | |
Math | ynys |
---|---|
Enwyd ar ôl | Luzón |
Poblogaeth | 53,336,134 |
Cylchfa amser | UTC+08:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | y Philipinau, Luzon |
Gwlad | y Philipinau |
Arwynebedd | 109,965 km² |
Uwch y môr | 2,922 metr |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel |
Cyfesurynnau | 16°N 121°E |
Ynys fwyaf y Philipinau yw Luzon a'r pwysicaf o ynysoedd y wlad yn nhermau gwleidyddiaeth ac economeg. Yn ogystal, mae'n enw ar un o dri grŵp o ynysoedd yn y Philipinau, gyda Visayas a Mindanao. Mae ynysoedd Luzon yn cynnwys ynys Luzon ei hun, ynghyd â grwpiau'r Batanes a Babuyan i'r gogledd, ac ynysoedd Catanduanes, Marinduque, Masbate, Romblon, a Mindoro i'r de. Yn y gorffennol roedd Luzon yn rhanedig yn dywysogaethau Mwslemaidd a theyrnasoedd bychan paganaidd, a arferent fasnachu gyda Maleisia, India, Japan a Tsieina cyn i reolaeth Sbaen ar y Philipinau gael ei sefydlu. Luçonia neu Luçon oedd yr enw a ddefnyddwyd gan y fforwyr Ewropeaidd cynnar a Luçoes oedd eu henw am y trigolion. Dan reolaeth Sbaen, daeth Luzon i gael ei galw yn Nueva Castilla (Castille Newydd). Lleolir Manila, prifddinas y Philipinau, ar ynys Luzon.
Gyda arwynebedd o 104,688 km sgwâr, Luzon yw'r ynys 17fed fwyaf yn y byd a'r pedwerydd fwyaf o ran poblogaeth gyda 46,228,000 yn byw yno. Yn ogystal â Manila, mae'r dinasoedd yn cynnwys Dinas Quezon, y ddinas fwyaf ar yr ynys. Mae'n ynys fynyddig lle ceir Mynydd Pulag, Mynydd Pinatubo, Mayon, a Llosgfynydd Taal, yr enwocaf o losgfynyddoedd Luzon. I'r gorllewin o ynys Luzon ceir Môr De Tsieina (Môr Luzon yw'r enw am y rhan ohono sydd yn nyfroedd y Philipinau), i'r dwyrain ceir Môr y Philipinau, ac i'r gogledd ceir Culfor Luzon.
Siaredir sawl iaith yn Luzon, yn cynnwys Tagalog, Ilocano, Kapampangan, Bicol, a Pangasinense. Yn ogystal, mae nifer o bobl yn medru'r Saesneg; mae Sbaeneg yn llai cyffredin erbyn heddiw.