Lycopodiophyta Amrediad amseryddol: Silwraidd – Holosen, | |
---|---|
Cnwp-fwsogl corn carw (Lycopodium clavatum) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Lycopodiophyta Cronquist, Takht. & W.Zimm. [P.D. Cantino & M.J. Donoghue] |
Dosbarthiadau | |
Lycopodiopsida: cnwp-fwsoglau |
Grŵp o blanhigion fasgwlar, anflodeuol sy'n cynnwys y cnwp-fwsoglau a gweiriau merllyn yw Lycopodiophyta neu Lycophyta (y lycoffytiau[1]). Mae'r grŵp yn cynnwys tua 1,100-1,200 o rywogaethau.[2] Maent yn atgenhedlu â sborau yn hytrach na hadau. Mae rhywogaethau modern yn fach o ran maint ond, yn ystod y cyfnod Carbonifferaidd, ffurfiodd y cnwp-fwsoglau anferth ran bwysig o goedwigoedd y byd.[3]