Math | bwrdeistref Dinas Efrog Newydd, consolidated city-county |
---|---|
Enwyd ar ôl | Ynys Manhattan |
Poblogaeth | 1,694,251 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Gale Brewer |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain, UTC−05:00, UTC−04:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas Efrog Newydd |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 33.58 mi² |
Uwch y môr | 85 metr |
Gerllaw | Afon y Dwyrain, Afon Hudson, Bae Efrog Newydd Uchaf, Afon Harlem, Spuyten Duyvil Creek |
Yn ffinio gyda | Y Bronx, Queens, Brooklyn, Weehawken, Ynys Staten, Hoboken, Jersey City, Guttenberg, Edgewater, Fort Lee, North Bergen, West New York |
Cyfesurynnau | 40.7283°N 73.9942°W |
Pennaeth y Llywodraeth | Gale Brewer |
Un o bum bwrdeistref Dinas Efrog Newydd yw Manhattan. Gyda phoblogaeth o fwy na 1.6 miliwn yn byw mewn ardal o 59 cilometr sgwâr, dyma'r ardal mwyaf poblog yn yr Unol Daleithiau gyda mwy na 27,000 o drigolion i bob cilometr sgwâr. Manhattan yw'r sir fwyaf cyfoethog yn yr Unol Daleithiau, gyda incwm personol o dros $100,000 y pen yn 2005. Mae'r fwrdeistref yn cynnwys Ynys Manhattan, Ynys Roosevelt, Ynys Randalls, bron i un rhan o ddeg o Ynys Ellis, y rhan uwch y dwr i Ynys Liberty, sawl ynys llai a rhan fechan o'r prif dir Talaith Efrog Newydd gyferbyn a'r Bronx.
I bob pwrpas ymarferol mae'r un endid ag Efrog Newydd County sy'n un o'r siroedd yn nhalaith Efrog Newydd.
Mae Manhattan yn ganolfan fasnachol, ariannol a diwylliannol yr Unol Daleithiau a'r byd. Lleolir y rhan fwyaf o gwmnïau radio, teledu a chyfathrebu technolegol yr Unol Daleithiau yma, ynghyd â nifer o gyhoeddwyr llyfrau a chylchgronau. Mae gan Manhattan nifer o leoliadau byd enwog, atyniadau twristaidd, amgueddfeydd a phrifysgolion. Yma hefyd mae pencadlys y Cenhedloedd Unedig. Ym Manhattan mae ardal fusnes fwyaf yr Unol Daleithiau, ac yma mae Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd a NASDAQ. Yn ddi-os, dyma canol Dinas Efrog Newydd ac ardal metropolitaidd Efrog Newydd, a lleolir cynulliad y ddinas a'r canran fwyaf o waith, busnes a gweithgareddau hamdden.
Tarddia'r enw "Manhattan" o'r gair "Manna-hata", fel y cyfeirir ato yn llyfr log Robert Juet, swyddog ar long Henry Hudson, y Halve Maen (Hanner Lleuad) ym 1609. Dengys fap yn darlunio'r enw "Manahata" ddwywaith, ar ochr ddwyreiniol a gorllewinol "Afon Mauritius" (a enwyd yn ddiweddarach yn Afon Hudson). Mae'r gair "Manhattan" wedi cael ei gyfieithu fel "ynys o sawl mynydd" o'r iaith Lepane.