Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,281 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.0231°N 2.96°W |
Cod SYG | W04000899 |
Cod OS | SJ356476 |
AS/au y DU | Andrew Ranger (Llafur) |
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Marchwiail (Saesneg: Marchwiel). Saif y pentref tua 2.5 filltir i'r de-ddwyrain o dref Wrecsam ei hun.
Gorwedd y pentref ym mhlwyf Marchwiail ym Maelor Gymraeg, ym Maelor, y rhan o ogledd-ddwyrain Cymru sy'n ymwthio i mewn i Loegr, ar yr A525 hanner ffordd rhwng Wrecsam a Bangor Is Coed i'r de-ddwyrain.
Ystyr marchwiail yw "brigau mawr, gwiail praff" neu "goed ifainc" (unigol: marchwialen).[1] Efallai bod yr ardal yn nodwedig o goediog ar un adeg.
Cysegrir yr eglwys i'r Santes Marchell ac i Sant Deiniol. Yn ôl yr hynafiaethydd Edward Lhuyd, i Ddeiniol y cyflwynwyd yr eglwys ar y dechrau. Cafodd adeilad yr eglwys ei ailgodi o'r newydd bron yn y 18g. Mae'n adnabyddus am ffenestr wydr-liw a adnabyddir fel "ffenestr Yorke".[2]
Roedd gan y pentref orsaf ar yr hen reilffordd Wrecsam ac Ellesmere. Caewyd yr orsaf ym 1962, pan gaewyd y reilffordd i deithwyr.[3]