Marswpialod | |
---|---|
Cangarŵ Llwyd y Dwyrain (Macropus giganteus) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Is-ddosbarth: | |
Inffradosbarth: | Illiger, 1811 |
Urddau | |
Grŵp o famaliaid yw marswpialod (hefyd bolgodogion neu codogion). Mae ganddynt goden arbennig (sef y marsupium) a ddefnyddir gan y benywod i gario eu hepil yn ystod plentyndod cynnar. Mae tua 331 o rywogaethau o farswpialod: mwy na 200 yn Awstralasia, tua 100 yng Nghanolbarth a De America ac un yng Ngogledd America. Fe'u ceir mewn llawer o gynefinoedd gwahanol ac maent yn cynnwys hollysyddion, cigysyddion, llysysyddion a phryfysyddion.