Math | safle archaeolegol, caer enfawr, Safle Treftadaeth y Byd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Tamar Regional Council |
Gwlad | Israel |
Arwynebedd | 276 ha, 28,965 ha |
Cyfesurynnau | 31.3156°N 35.3539°E |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Caer a safle archaeolegol yn Israel yw Masada (Hebraeg: מצדה, Metzada, o מצודה, metzuda, "caer"). Saif yn Rhanbarth Deheuol Israel, ar graig ar ochr ddwyreinol Anialwch Judea. Mae'r clogwyni'n cyrraedd uchder o 1,300 troedfedd ar yr ochr ddwyreiniol, a thua 300 troedfedd ar yr ochr orllewinol.
Yn ôl yr hanesydd Josephus, adeiladodd Herod Fawr gaer yma rhwng 37 a 31 CC. fel man diogel iddo ef a'i deulu pe bai gwrthryfel yn ei erbyn. Yn 66 OC, pan ddechreuodd y gwrthryfel Iddewig yn erbyn yr Ymerodraeth Rufeinig, cipiodd grŵp o Iddewon a elwid y Sicarii y gaer oddi wrth ei garsiwn Rhufeinig. Roeddynt dan arweiniad Elazar ben Ya'ir (efallai yr un person a Eleazar ben Simon). Yn 72 rhoddodd llywodraethwr Rhufeinig Iudaea, Lucius Flavius Silva, a'r lleng X Fretensis y gaer dan warchae. Yn Ebrill 73 llwyddodd y Rhufeiniaid i dorri trwy fur y gaer. Lladdodd yr amddiffynwyr, 936 ohonynt i gyd, ei gilydd yn hytrach nag ildio.
Cloddiwyd y safle rhwng 1963 a 1965 gan yr archaeolegwr Israelaidd Yigael Yadin. Mae'n awr yn atyniad poblogaidd i dwristiaid, a daeth yn Safle Treftadaeth y Byd yn 2001.