Math | dinas, tref ar y ffin, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 343,541 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+2 |
Gefeilldref/i | Austin, Koblenz |
Daearyddiaeth | |
Sir | Maseru District |
Gwlad | Lesotho |
Arwynebedd | 138 km² |
Uwch y môr | 1,600 metr |
Gerllaw | Afon Caledon |
Cyfesurynnau | 29.31°S 27.48°E, 29.31667°S 27.48333°E |
Prifddinas a dinas fwyaf Lesotho yw Maseru. Fe'i lleolir yng ngorllewin y deyrnas, ger y ffin â De Affrica.
Yn gorwedd ar lan Afon Mohokare, Maseru yw'r unig ddinas sylweddol yn Lesotho, gyda phoblogaeth o tua 227,880 (2006). Sefydlwyd y ddinas fel gwersyll heddlu a chafodd ei chyhoeddi yn brifddinas Lesotho pan ddaeth y wlad honno yn brotectoriaeth dan ofal Prydain yn 1869. Pan enillodd Lesotho ei hannibyniaeth yn 1966, parhaodd Maseru yn brifddinas y wladwriaeth newydd. Ystyr yr enw yn yr iaith leol yw "(Lle) Tywodfaen Coch".