Math | plasty gwledig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Mathafarn Estate |
Lleoliad | Glantwymyn |
Sir | Glantwymyn |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 34 metr |
Cyfesurynnau | 52.6246°N 3.7621°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Ystad a thŷ ger Llanwrin ym Mhowys ydy Mathafarn. Mae'r tŷ erbyn hyn yn llety gwely a brecwast, gyda phedair seren. Mae fferm Mathafarn ar wahan, ac yn dal i gael ei weithio hyd heddiw.
Y bardd ac uchelwr Dafydd Llwyd o Fathafarn oedd berchen Bathafarn yn 1485, pan arhosodd Harri Tudur, Iarll Richmond (a ddaeth yn Harri VII, brenin Lloegr), yno y noson cyn Brwydr Bosworth. Cofnoda Hugh ap Evan o Fathafarn (1530-1589), a llinach teulu Pugh, a oedd yn Stiwardiaid ac yn ddiweddarach yn Arglwyddi'r Faenor.[1]
Ganwyd Rowland Pugh yn Mathafarn yn 1597, yn fab hynaf Richard ap John ap Hugh. Roedd yn aelod seneddol Ceredigion yn 1624 a Stiward Cyfeiliog yn 1625, Uchel Siryf Sir Drefaldwyn yn 1626, Uchel Siryf Sir Feirionnydd yn 1631, ac Uchel Siryf Ceredigion yn 1631.[1]
Llosgwyd y tŷ ar 29 Tachwedd 1644 gan y fyddin seneddol, oherwydd ffyddlondeb Rowland Pugh i'r goron, yn ystod brwydr yn y Rhyfel Cartref a ddigwyddodd ger Pont Dyfi rhwng Oliver Cromwell a'r Brenhinwyr.[1] Dyrchafwyd ei fab, John Pugh, yn Arglwydd Cyfeiliog yn 1664 i gydnabod ei wasanaeth ef a'i dad i'r goron.[1]
Fe briododd Maria Pugh, wyres Rowland Pugh, Thomas Pryse o Gogerddan. Eu mab hwy oedd John Pugh Pryce aelod seneddol Meirionnydd.[2] Bu farw Pugh Pryce yn ddibriod ac fe werthwyd yr ystâd. Fe'i prynwyd gan Frances, mam Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig, ar ei ran yn 1752. Fel hyn daeth yr ystâd yn rhan o Ystad Wynnstay.[1][3]