Enghraifft o'r canlynol | galwedigaeth, occupation group according to ISCO-08, galwedigaeth |
---|---|
Math | gwyddonydd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Arbenigwr ym maes Mathemateg yw mathemategydd, ac sy'n astudio rhif, data, modelau, strwythur, gofod, newid (Calcwlws) a nifer o israniadau eraill. Yn aml mae'n datrys problemau mathemategol naill ai mewn mathemateg bur neu mathemateg gymhwysol, ar gyfer sefyllfaoedd real y byd mawr.[1][2]
Un o'r mathemategwyr cyntaf y ceir conod ohono yw Thales o Filetus (c. 624–c.546 CC) a'r ferch gyntaf oedd Hypatia o Alexandria (AD 350 - 415) a ysgrifennodd nifer o lyfrau ar fathemateg gymhwysol. Blodeuodd tad geometreg, sef Euclid o Alexandria yn 300 CC. Magwyd sawl cyfieithydd Islamaidd a drodd at fathemateg, gan gynnwys Ibn al-Haytham; un nodwedd ohonynt oedd eu bod yn aml-ddisgyblaethol, yn bolymath. Yn yr Oesoedd Canol roedd mathemategwyr Ewropeaidd yn dilyn gyrfâu eraill, gan droi at fathemateg fel diddordeb: peiriannydd oedd Niccolò Fontana Tartaglia, cyfreithiwr oedd François Viète a meddyg oedd y Cymro Robert Recorde.[3][4]
Erbyn y 17g, daeth y prifysgolion yn feithrinfeydd i syniadau newydd gyda Robert Hooke a Robert Boyle ym Mhrifysgol Rhydychen ac Isaac Newton yng Nghaergrawnt.[5]