Matthew Arnold | |
---|---|
Ganwyd | 24 Rhagfyr 1822 Laleham |
Bu farw | 15 Ebrill 1888 Lerpwl |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, llenor, beirniad llenyddol, academydd, newyddiadurwr, arolygydd ysgol, awdur ysgrifau |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Scholar-Gypsy, Thyrsis, Dover Beach, Tristram and Iseult, To Marguerite: Continued, Sohrab and Rustum, Balder Dead, On Translating Homer, Culture and Anarchy |
Tad | Thomas Arnold |
Mam | Mary Penrose |
Priod | Frances Lucy Wightman |
Plant | Basil Arnold, Eleanore Mary Caroline Arnold, Thomas Arnold, Lucy Charlotte Arnold, Richard Penrose Arnold, Trevenen William Arnold |
Gwobr/au | Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Newdigate Prize |
Roedd Matthew Arnold (24 Rhagfyr 1822 – 15 Ebrill 1888) yn fardd a llenor Saesneg.
Ganed Arnold yn Laleham, Middlesex, yn fab hynaf Dr. Thomas Arnold, prifathro Ysgol Rugby. Aeth i Brifysgol Rhydychen ac yn ddiweddarach daeth yn ysgrifennydd preifat yr Arglwydd Lansdowne. Trwy ddylanwad Lansdowne daeth yn Arolygydd Ysgolion yn 1851, a phriododd Lucy Wightman yr un flwyddyn.
Cyhoeddodd Arnold ei gyfrol gyntaf o gerddi yn 1849, ac yn fuan daeth yn adnabyddus fel bardd. Yn 1857 daeth yn Athro Barddoniaeth yn Rhydychen. Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar lenyddiaeth: On Translating Homer" (1861, 1862) a On the Study of Celtic Literature (1867). Ei gerdd fwyaf adnabyddus bellach yw ei gerdd ddiweddar Dover Beach.