Meilir Gwynedd

Meilir Gwynedd
Ganwyd4 Awst 1976 Edit this on Wikidata
Galwedigaethcerddor Edit this on Wikidata

Mae Mei Gwynedd yn ganwr ac yn gerddor Cymraeg sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r sîn roc Gymraeg. Cafodd ef ei fagu yn Waunfawr, Gwynedd ac ers ei arddegau cynnar, mae wedi bod yn gysylltiedig â bandiau, megis Beganifs, Big Leaves, ynghyd â'i frawd, Osian Gwynedd, cyn i'r ddau gyd-ffurfio y grŵp Sibrydion yn 2003. Yn 2008, ymddangosodd Mei Gwynedd fel prif gitarydd band Rhys Ifans, The Petha gefnogodd Oasis ar daith. Mae ei daith gerddorol wedi bod yn amrywiol, ac mae’n parhau i greu trefniannau ffres ar gyfer caneuon Cymraeg cyfarwydd. Yn ddiweddar, lawnsiodd brosiect “Sesiynau Tŷ Potas” lle mae’n rhoi stamp unigryw ar ganeuon traddodiadol Cymreig ac yn eu plethu gyda thraddodiadau celtaidd eraill.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Meilir Gwynedd

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne