Corff neu gyfundrefn seiliedig ar y gymuned sy'n gweithio i godi proffiliau yr iaith Gymraeg o fewn bro leol yw Menter Iaith. Mae Mentrau Iaith yn cydweithio gydag unigolion, cyrff a busnesau lleol i hyrwyddo'r defnydd o'r iaith yn y fro.
Y Fenter Iaith gyntaf i gael ei sefydlu oedd Menter Cwm Gwendraeth yn ardal Cwm Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin, yn 1991. Fel rheol, mae Menter Iaith yn gweithredu o fewn ardal a ddiffinir gan yr awdurdod lleol, ac eithrio yn achos Sir Gaerfyrddin a Phowys lle ceir nifer o Fentrau Iaith llai sy'n gweithio ar lefel mwy lleol, a Chasnewydd a Gwynedd, sydd heb Fentrau Iaith ar hyn o bryd. Yng Nghasnewydd ceir partneriaeth rhwng yr awdurdod lleol a Bwrdd yr Iaith a elwir 'Cymraeg Casnewydd', sy'n gweithredu yn yr un modd â Menter Iaith.
Cydlynir gwaith y Mentrau Iaith gan Mentrau Iaith Cymru, corff ymbarél sy'n cynnig platfform cenedlaethol i'r Mentrau lleol rannu gwybodaeth a syniadau.