Mentrau Iaith Cymru

Mentrau Iaith Cymru
Enghraifft o:sefydliad cymunedol Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Mentrau Iaith Cymru yw'r corff cenedlaethol sy'n cydlynu a rheoleiddio gwaith 22 gwahanol Menter Iaith ar draws Cymru. Yn 2017, roedd y corff yn derbyn grant blynyddol o £110,000 gan Lywodraeth Cymru.[1]

Lleolir swyddfeydd Mentrau Iaith Cymru yn Llanrwst, gan rannu swyddfa gyda Menter Iaith Conwy.

Mae Mentrau Iaith Cymru (MIC) yn gweithredu fel sefydliad ymbarél i'r Mentrau Iaith lleol gan eu cynrychioli mewn trafodaethau â sefydliadau eraill, megis Llywodraeth Cymru. Mae MIC yn hyrwyddo a chefnogi gwaith y Mentrau Iaith yn eu cymunedau.

Ymysg un o brif weithgareddau MIC yw trefnu a chyd-lynu Ras yr Iaith, ras hwyl dros yr iaith Gymraeg a gynhelir pob dwy flynedd. Mae'r Ras yn rhedeg drwy ganol trefi gan basio 'baton yr iaith' ar hyd y daith. Y mentrau iaith lleol, mewn cydweithrediad gyda MIC, sy'n trefnu nifer o'r gweithgareddau a llwybr y ras gydag aelodau o'r gymuned lleol.

  1.  Gwerth £4.2m o grantiau i sefydliadau Cymraeg. Golwg360 (22 Mawrth 2017). Adalwyd ar 6 Hydref 2018.

Mentrau Iaith Cymru

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne