Y Dywysoges Chkonia o Fingrelia | |
Enghraifft o: | grŵp ethnig |
---|---|
Mamiaith | Mingreleg, georgeg |
Label brodorol | მარგალეფი |
Poblogaeth | 400,000 |
Crefydd | Eglwysi uniongred |
Rhan o | Ieithoedd Cartfeleg |
Enw brodorol | მარგალეფი |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp ethnig sy'n perthyn i genedl y Georgiaid yn y Cawcasws yw'r Mingreliaid sy'n siarad yr iaith Fingreleg. Mae tua hanner miliwn ohonynt yn byw yn Georgia, yn bennaf yn nhalaith Mingrelia, neu Samegrelo.
Saif mamwlad y Mingreliaid ar lannau'r Môr Du, yn ardal Teyrnas Egrisi, a elwid Colchis gan yr hen Roegiaid. Erbyn yr 11g, roedd Mingrelia yn rhan o Deyrnas Georgia. Enillodd Tywysogaeth Mingrelia ei hannibyniaeth yn yr 16g dan frenhinllin y Dadiani. Yn 1803 arwyddwyd cytundeb am nawddogaeth Ymerodraeth Rwsia. Cipiwyd Mingrelia gan luoedd Rwsia yn 1857, a diddymwyd y dywysogaeth.
Ystyrir y Mingreliaid yn is-grŵp i'r Georgiaid, er eu bod yn meddu ar ddiwylliant, hanes, ac iaith eu hunain. Mae'r mwyafrif ohonynt yn aelodau Eglwys Uniongred Georgia, a rhai yn Fwslimiaid, yn Uniongredwyr Rwsiaidd, neu'n Gatholigion.[1] Ceir pryder o fewn gwladwriaeth Georgia y gall hyrwyddo iaith ac hunaniaeth Mingrelaidd danseilio undod y weriniaeth a bod hyrwyddo hawliau lleiafrifol yn rhan o ystryw 'rhannu a rheoli' gan Rwsia.[2] Ymddengys y gwelir hunaniaeth y Mingreliaid fel un rhanbarthol o fewn Georgia ac nid un genedlaethol. Mae'n ymddangos bod amheuon yn Georgia bod Moscow yn bwriadu gwanhau eu gwlad trwy rannu ei grŵp ethnig teitl yn gydrannau llai wedi'u cadarnhau yn 2010, pan restrodd cyfrifiad Rwsia bod hunaniaeth Mingreliaid ar wahân i Georgiaid (ynghyd â Svans, Adjarians, pobl Ingiloy sef Georgiaid gogledd-orllewin Azerbaijan, a phobl Laz).[2]
Hyd yn oed yn Rwsia, mae'r rhan fwyaf o siaradwyr Mingreleg yn gwrthod y syniad o hunaniaeth ethnig sy'n wahanol i hunaniaeth Georgaidd.
Ond mae’r ffaith bod bron i 158,000 o ymatebwyr wedi datgan eu bod yn Georgiaid, tra mai dim ond 600 (llai na 0.4%) a nododd eu bod yn Mingreliaid (45 fel Svans), hyd yn oed yn Rwsia, mae’r rhan fwyaf o siaradwyr Mingreleg yn gwrthod y syniad o hunaniaeth ethnig wahanol i un y Georgiaid.
Yn sgil Chwyldro Rwsia yn 1917, meddiannwyd Mingrelia gan Weriniaeth Ddemocrataidd Georgia (1918–21). Cyfeddiannwyd gwledydd deheuol y Cawcasws gan yr Undeb Sofietaidd a chychwynnwyd ar bolisi swyddogol o gymhathu'r Mingreliaid yn rhan o genedl y Georgiaid. Yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd a rhyfeloedd yn ne'r Cawcasws yn y 1990au, alltudiwyd rhyw 200,000 o Georgiaid, y mwyafrif ohonynt yn Fingreliaid, o Abcasia.[1]