Mochdre, Powys

Mochdre
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMochdre with Penstrowed Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.486583°N 3.367984°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRussell George (Ceidwadwyr)
AS/au y DUCraig Williams (Ceidwadwr)
Map
Am y pentref o'r un enw yng Nghonwy, gweler Mochdre, Conwy.

Pentref bychan a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Mochdre.[1] Saif i'r de-orllewin o'r Drenewydd.

Cysegrwyd yr eglwys i'r Holl Saint. Mae'r to yn dyddio o ddechrau'r 16g, ond ail-adeiladwyd y gweddill yn 1867. Efallai fod cyfeiriad at Fochdre ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy, lle mae Gwydion wedi dwyn moch Pryderi yn aros dros nos rhwng Ceri ac Arwystli.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]

Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 482.


  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU

Mochdre, Powys

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne