![]() | |
Math | mynydd, copa ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Moel Hebog ![]() |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 638 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53°N 4.14°W ![]() |
Cod OS | SH5529548554 ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 62 metr ![]() |
Rhiant gopa | Moel Hebog ![]() |
Cadwyn fynydd | Moel Hebog ![]() |
![]() | |
Mynydd yn Eryri, rhwng Beddgelert a Chwm Pennant yw Moel Lefn. Mae'n rhan o'r grib sy'n cyrraedd ei phwynt uchaf ar gopa Moel Hebog; saif Moel Lefn ar ben gogleddol y grib, gyda Moel yr Ogof rhwng y copa yma a Moel Hebog.
Saif Cwm Pennant i'r gorllewin o'r copa, Cwm Trwsgwl a Bwlch y Ddwy Elor i'r gogledd a Choedwig Beddgelert i'r dwyrain.