![]() | |
Math | mynydd, copa ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 623 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.0166°N 3.9155°W ![]() |
Cod OS | SH716483 ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 138 metr ![]() |
Rhiant gopa | Manod Mawr ![]() |
Cadwyn fynydd | Y Moelwynion ![]() |
![]() | |
Copa yn y Moelwynion yn Eryri yw Moel Penamnen; cyfeiriad grid SH716483. Saif i'r gogledd-ddwyrain o dref Blaenau Ffestiniog ac i'r dwyrain o'r briffordd A470 a Bwlch y Gerddinen. Saif Llynnau Barlwyd i'r gorllewin o'r copa, ac mae ffin Parc Cenedlaethol Eryri yn mynd dros y copa. I'r gogledd-ddwyrain mae Cwm Penamnen yn ymestyn tua'r gogledd i gyfeiriad Dolwyddelan. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 490metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Gellir ei ddringo o Fwlch y Gerddinen, dros gopa is Moel Farlwyd, neu o Gwm Penamnen. Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt, Nuttall a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 623m (2044tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 20 Tachwedd 2009.