Math | copa, bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Trearddur |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 220 metr |
Cyfesurynnau | 53.313°N 4.6764°W |
Cod OS | SH2185982948 |
Amlygrwydd | 220 metr |
Mynydd Twr, pwynt uchaf Ynys Gybi, yw'r bryn uchaf ym Môn. Mae'n gorwedd tua 3 km i'r gorllewin o dref Caergybi, gan godi'n syth o Fôr Iwerddon ar ddwy ochr. Ar ei ochr ddwyreiniol ceir tŵr gwylio, neu oleudy, sy'n perthyn i gyfnod y Rhufeiniaid. Yn ogystal ceir grŵp o gytiau, Cytiau Tŷ Mawr, wedi eu hamgylchynu gan fur sy'n dyddio i Oes yr Haearn. Chwarelwyd y cerrig ar gyfer morglawdd Caergybi o'r mynydd yn ogystal; cyfeiriad grid SH218829. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 0metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.