![]() | |
Math | neuadd gyngerdd, theatr ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Albert o Sachsen-Coburg a Gotha ![]() |
Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | De Kensington ![]() |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.50105°N 0.17748°W ![]() |
Cod OS | TQ2660279585 ![]() |
Cod post | SW7 2AP ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Eidalaidd ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Manylion | |
Neuadd gerdd yn Ne Kensington, Dinas Westminster, Llundain, Lloegr, ydy Neuadd Frenhinol Albert (Saesneg: Royal Albert Hall) sy'n adnabyddus fel cartref y Proms ers 1941. Gall ddal hyd at 5,272 o bobl.
Fe'i hadeiladwyd yn 1871 a'i henw gwreiddiol oedd "The Central Hall of Arts and Sciences", ond newidiwyd yr enw gan y Frenhines Victoria i "Royal Albert Hall of Arts and Sciences" pan oedd yn gosod y seiliau cyntaf. Mae'r gromen yn y to yn haearn bwrw a gwydr ac yn 41 m (135 tr) o uchder. Adeiladwyd y neuadd ar ffurf elipsaidd, mewn gwirionedd, ac nid cylch ac mae'n mesur 83 m (272 tr) wrth 72 m (236 tr).