Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 3,340 |
Gefeilldref/i | Sanguinet |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7113°N 4.9452°W |
Cod SYG | W04000457 |
Cod OS | SM965055 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Henry Tufnell (Llafur) |
Tref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Neyland.[1][2] Mae yn y rhanbarth Saesneg ei iaith o'r sir, ac nid ymddengys bod enw Cymraeg.[3] Saif ar ochr ogleddol Afon Cleddau, gyferbyn a Doc Penfro, gyda Phont Cleddau yn eu cysylltu. Mae Caerdydd 125.3 km i ffwrdd o Neyland ac mae Llundain yn 335.8 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe sy'n 68.8 km i ffwrdd.
Pentref pysgota bychan oedd Neyland hyd 1856, pan ddaeth yn orsaf a phorthladd ar ben draw Rheilffordd y Great Western a adeiladwyd gan Isambard Kingdom Brunel. Yn 1899 agorwyd porthladd newydd yn Wdig ger Abergwaun, a lleihaodd y defnydd o Neyland. Caewyd porthladd Neyland yn 1964.
Mae'r dref wedi'i gefeillio gyda Sanguinet yn Aquitaine.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[5]