Unfed lythyren ar ddeg (Llythyren un-deg-un) yr wyddor Gymraeg ydy ng. Mae'n ymddangos yng nghanol neu ddiwedd gair, ac ar gychwyn geiriau sydd wedi'u treiglio (gweler treigliad trwynol). Mae hi'n dilyn g yn yr wyddor.
Ar adegau, mae'r ddwy lythyren n ac g i'w clywed ar wahân yn hytrach na'r sŵn 'ng' arferol e.e. yn y gair 'Bangor' neu 'llongyfarch'. Pan nad yw'r n a'r g yn ffurfio ng, mae rhai geiriaduron yn rhoi dot rhyngddynt yn dradoddiadol (fel "n.g") er mwyn dangos mai dwy lythyren wahanol ydyn nhw, er nad ydy'r dot yn cael ei ysgrifennu e.e. 'Ban.gor'.
Mae'r ng yn sgorio 10 pwynt yn y gêm Scrabble yn Gymraeg.