Norman Berdichevsky | |
---|---|
Ganwyd | 1943 |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | hanesydd, ysgolhaig Iddewig, daearyddwr, cyfieithydd |
Awdur, darlithydd a chyfieithydd Iddewig o'r Unol Daleithiau yw Norman Berdichevsky sy'n arbenigo mewn pynciau sy'n ymwneud ag iaith a hunaniaeth gwrth Gomiwnyddol. Mae'n erbyn Mwslemiaeth radical a'r hyn a welai fel agwedd llwfr nifer o ddeallusion yn y Gorllewin tuag at fygythiad Mwslemiaeth uniongred. Ysgrifenna o gyfeiriad asgell dde seciwlar. Mae'n frodor o Efrog Newydd ond bellach yn byw yn Orlando, Florida.
Mae'n rhugl yn y Saesneg, Sbaeneg, Hebraeg a Daneg ac wedi darlithio, cyhoeddi a chyfieithu yn yr ieithoedd hynny. Fel Iddew mae ganddo ddiddordeb arbennig yn Israel ac yn nefnydd a dyfodol yr iaith Hebraeg.