Enghraifft o'r canlynol | math o organ, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | organ gyda cheudod organ, Q4364110, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | llwybr gastroberfeddol dynol |
Cysylltir gyda | ffaryncs, stumog |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
1: Y geg 2: Taflod 3: Tafod bach 4: Tafod 5: Dannedd 6: Chwarennau poer 7: Isdafodol 8: Isfandiblaidd 9: Parotid 10: Argeg (ffaryncs) 11: Sefnig (esoffagws) 12: Iau (Afu) 13: Coden fustl 14: Prif ddwythell y bustl 15: Stumog | 16: Cefndedyn (pancreas) 17: Dwythell bancreatig 18: Coluddyn bach 19: Dwodenwm 20: Coluddyn gwag (jejwnwm) 21: Glasgoluddyn (ilëwm) 22: Coluddyn crog 23: Coluddyn mawr 24: Colon trawslin 25: Colon esgynnol 26: Coluddyn dall (caecwm) 27: Colon disgynnol 28: Colon crwm 29: Rhefr: rectwm 30: Rhefr: anws |
Pibell bilennog a chyhyrol a geir mewn rhai anifeiliaid ac sy'n symud y bwyd o'r argeg (ffaryncs) i'r stumog ydyw'r (o)esoffagws, y sefnig, y llwnc neu'r bibell fwyd (Saesneg: (o)esophagus, gullet). Mae bwyd yn cael ei basio drwyddo ar ei daith o'r argeg i lawr y gwddf rhwng y tracea a'r asgwrn cefn a'r tu ôl i'r broncws chwith lle mae'n tyllu'r llengig ychydig i'r chwith o'r llinell ganol ac yn ymuno â phorth y stumog. O'r Lladin Canol y daw'r gair a hwnnw yn ei dro'n newyddair meddygol wedi'i fathu o'r Hen Roeg oisophágos (οισοφάγος) ‘mynediad y bwyd’. Mewn bodau dynol caiff ei leoli ar yr un lefel â fertebra C6 ac mae'n 25–30 cm o hyd, gan ddiweddu yng mhorth y stumog.
Mae iddo dair rhan: y rhan yddfol, thorasig ac abdomenol.