Olivia Newton-John | |
---|---|
Ganwyd | 26 Medi 1948 Caergrawnt |
Bu farw | 8 Awst 2022 o canser y fron Santa Ynez Valley |
Label recordio | Uni, EMI, MCA Records |
Dinasyddiaeth | Awstralia, y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, actor ffilm, artist recordio, canwr-gyfansoddwr, actor, cyfansoddwr |
Adnabyddus am | Xanadu, Twist of Fate, Physical, If You Love Me (Let Me Know) |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, canu gwlad, roc poblogaidd, pop dawns |
Math o lais | soprano |
Tad | Bryn Newton-John |
Mam | Irene Helen Käthe Born |
Priod | Matt Lattanzi, John Easterling |
Plant | Chloe Rose Lattanzi |
Perthnasau | Max Born, Jeff Conaway, Brett Goldsmith, Tottie Goldsmith, Gustav Victor Rudolf Born, Georgina Born, Ben Elton |
Gwobr/au | OBE, Swyddogion Urdd Awstralia, Gwobr Emmy 'Daytime', Trysor byw genedlaethol Awstraliaid, Cydymaith Urdd Awstralia, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Grammy am Berfformiad Lleisiol Pop Benywaidd Gorau, Grammy Award for Record of the Year, Gwobr Grammy am Berfformiad Lleisiol Pop Benywaidd Gorau, Grammy Award for Video of the Year, Gwobr Flynyddol Cymdeithas Cerddoriaeth Gwlad i Ferched, Gwobr Cerddoriaeth Americanaidd ar gyfer Hoff Albwm Gwlad, American Music Award for Favorite Pop/Rock Song, American Music Award for Favorite Pop/Rock Album, Australian Recording Industry Association, National Trust of Australia, Music Victoria Awards of 2015, Uwch Ddoethor, Australian Women in Music Awards, American Music Award for Favorite Country Female Artist |
Gwefan | http://www.olivianewton-john.com/ |
llofnod | |
Cantores bop, cyfansoddwraig ac yn actores o Awstralia oedd Olivia Newton-John, OBE (26 Medi 1948 – 8 Awst 2022); roedd ganddi llinach Almaenig a Chymreig. Fe'i ganwyd yn Lloegr ond cafodd ei magu yn Awstralia. Ymgyrchodd yn frwd dros ymwybyddiaeth cancr y fron a materion amgylcheddol. Fe lawnsiodd nifer o gynhyrchion ar gyfer cwmni Koala Blue.
Roedd ei thad Bryn Newton-John yn academydd, yn swyddog cudd-wybodaeth yn Bletchley Park yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yn ddarlledwr ar deledu Awstralia. Cafodd ei eni yng Nghaerdydd.
Bu farw o gancr yn 73 mlwydd oed.[1]
Cafodd 5 rhif un a 10 record arall yn y Deg Uchaf yn yr Unol Daleithiau ac enillodd bedair gwobr Grammy. [2] Daeth yn fwyaf enwog am ei rhan yn y ffilm Grease (1978) ac fe'i enwebwyd am Golden Globe fel Actores Orau mewn Sioe Gerdd.